Welsh netball is delighted to announce the Wales U21 squad of fifteen from which the final twelve will be named to face England, Scotland, and Northern Ireland at the Netball Europe Youth Championship 2016.
Cardiff will host the event on 7-9 October 2016 at the Sport Wales Centre, Sophia Gardens. The matches are World Youth Cup qualifying matches and there for a particularly historic event as this will be the first time Wales has ever hosted qualifying matches for the Netball World Youth Cup. All countries will secure their place at Botswana 2017.
“It is an honour to welcome the best players from across the UK under the age of 21 to Wales,” says Welsh Netball’s Chief Executive, Sarah Jones.
“It will be a very special event for the young players, who are all looking forward to confirming their place at next year’s World Youth Cup.
“The weekend’s competition will provide a very exciting atmosphere, and we invite Wales to enjoy netball of the highest standard and to get behind the Welsh team by joining us in Cardiff.”
The fifteen athletes are:
Bethan Johnson, Bethan Moore, Chloe Dyke, Chloe James, Eve Wright, Evie Brereton, Fern Davies, Leila Thomas, Lowri Jenkins, Lydia Hitchings, Megan Powell, Miquie Walker-Jones, Morgan Ireland, Rebecca Baker, and Sarah Llewelyn.


Head of Elite Performance at Welsh Netball, Trish Wilcox says;
“The squad is a mixture of experienced players and some new faces. The players have been working hard on their individual and squad training programmes and are now ready for the competition ahead.
“To be a part of an international tournament will be an unforgettable experience for them all and the players and coaches are looking forward to the challenge and welcoming the other U21 teams and their supporters to our beautiful capital city.”
Be part of the supporting crowd during the weekend – an event for all the family. Get your tickets via the Ticketline website: http://www.ticketline.co.uk/inf-netball-world-youth-cup#bioe
*****
Cyhoeddi
carfan Pêl Rwyd Cymru dan 21.
Mae Pêl Rwyd Cymru yn falch o gyhoeddi’r garfan dan 21 oed o bymtheg chwaraewr, lle caiff y deuddeg terfynol eu henwi i wynebu Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaeth Pêl Rwyd Ewrop yng Nghaerdydd.
Caiff y Bencampwriaeth ei gynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia rhwng 7-9 Hydref eleni. Mae hi’n ddigwyddiad arbennig iawn am ei bod hi’n gystadleuaeth lle fydd y gwledydd yn medru cadarnhau eu lle yng Nghwpan Pêl Rwyd Ieuenctid y Byd ym Motswana 2017.
Dyma’r tro cyntaf erioed i Gaerdydd groesawu gemau rhagbrofol Cwpan Pêl Rwyd Ieuenctid y Byd.
“Mae hi’n fraint cael croesawu chwaraewyr gorau Prydain o dan 21 oed i Gymru,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl Rwyd Cymru, Sarah Jones.
“Mae hi’n achlysur arbennig iawn i’r chwaraewyr ifanc, i gyd yn edrych ymlaen at sicrhau eu lle yng Nghwpan Ieuenctid y Byd flwyddyn nesaf.
“Mi fydd hi’n benwythnos cyffrous gydag awyrgylch trydanol, a hoffwn wahodd y Cymry i ddod i fwynhau pêl rwyd o’r safon uchaf, ac i gefnogi Cymru yn eu hymgyrch wrth gwrs.”
Y garfan o bymtheg ydy:
Bethan Johnson, Bethan Moore, Chloe Dyke, Chloe James, Eve Wright, Evie Brereton, Fern Davies, Leila Thomas, Lowri Jenkins, Lydia Hitchings, Megan Powell, Miquie Walker-Jones, Morgan Ireland, Rebecca Baker, a Sarah Llewelyn.
Meddai Pennaeth Perfformiad Elît Pêl Rwyd Cymru, Trish Wilcox,
“Mae’r garfan yn gymysgedd o chwaraewyr profiadol ac ambell wyneb newydd. Mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar eu rhaglen hyfforddi personol a rhaglen y tîm, ac maent yn barod ar gyfer yr her o’i blaenau.
“Bydd gemau rhyngwladol fel hyn yn brofiad bythgofiadwy iddynt, ac edrychai’r tîm cyfan ymlaen at groesawu timoedd dan 21 y tair gwlad arall a’u cefnogwyr i’n Prif Ddinas hardd.”
I fod yn rhan o’r bwrlwm ac i gefnogi Cymru, cewch hyd i docynnau ar wefan Ticketline: http://www.ticketline.co.uk/inf-netball-world-youth-cup#bioe

